| Er mwyn diogelu a dyrchafu safon a syberwyd cyfarfyddiadau, gorymdeithiau a seremonïau Gorsedd y Beirdd, byddai'n wiw i ni fel aelodau a swyddogion yn ddiwahân ein holi'n hunain ynglyn a'n FFYDDLONDEB, PRYDLONDEB, GRASLONRWYDD, URDDAS, a'n CYMREICTOD yn holl weithgareddau'r Orsedd. 1. Ffyddlondeb: Ni allwn
werthfawrogi ein haelodaeth o Orsedd y Beirdd heb fod yn
ffyddlon, hyd y mae hynny'n bosibl, yn ei holl gyfarfyddiadau;
nid yw ffyddlondeb i'r Cylch am dro neu ddau wedi ein hurddo
yn unig yn ddigon da. Bendithiwyd Gorsedd y Beirdd ar hyd
y blynyddoedd ag aelodau a swyddogion y bu eu presenoldeb
bron yn ddi-fwlch hyd nes i lesgedd a henaint eu lluddias. 2. Prydlondeb: Cyn y seremonïau ar ddyddiau'r Cyhoeddi, y Coroni a'r Cadeirio ac Agor y Cylch ar fore Mawrth yr Eisteddfod a'i gau ar fore lau, y mae o bwys mawr fod yr holl Orseddogion yn cyrraedd yr Ystafelloedd Gwisgo erbyn yr amserau penodedig fel y bo pawb yn barod ar gyfer yr orymdaith ar alwad yr Arwyddfardd a'r Disteiniaid.
|
3. Graslonrwydd: Pan gyferfydd tyrfa fawr yng Ngorsedd, ac yn arbennig yn yr ystafelloedd gwisgo, y mae'n hawdd i rywrai gael eu tramgwyddo oherwydd nad oes gwisg ar eu cyfer neu ryw amryfusedd arall. Y mae tiriondeb o bob tu yn werthfawr a gweddus iawn mewn amgylchiadau fel hyn. 'Caffed amynedd ei pherffaith waith'. 'Yn wyneb Haul, llygad Goleuni' y cyfarfu'r Orsedd o'i chychwyniad, a gweddus i'r Haul a'r Goleuni hwnnw gael ei adlewyrchu yn holl ymarweddiad aelodau Gorsedd y Beirdd yn ei chyfarfyddiadau, ei gorymdeithiau a'i seremonïau. 4. Urddas: I berffeithio
gorymdeithiau a seremonïau Gorsedd y Beirdd y mae galw ,
am lawer mwy o urddas nag sydd gennym: 5. Cymreictod: Yng nghyfarfyddiadau, gweithgareddau, seremonïau a gorymdeithiau'r Orsedd, yr Iaith Gymraeg yn unig a siaredir gan aelodau a swyddogion Gorsedd a Beirdd Cymru, oddieithr bod angen egluro unrhyw fater i gynrychiolwyr Gorseddau Llydaw a Chernyw. |