| Ar ddydd Llun 12 Mehefin 2006 aeth dirprwyaeth o'r Orsedd i Bontypridd i ddathliadau cyfansoddi ein Hanthem Genedlaethol gan Evan a James James yn 1865.
Cyfarchwyd plant y fro mewn cyngerdd ym Mharc Ynysanghard ac yna yng ngwyneb haul canol dydd cyfarchwyd hanes y fro o'r Maen Chwŷf (Garreg Siglo) yng Nghylch yr Orsedd ar y Comin ym Mhontypridd.
|
Cynhaliwyd cyfarfod o'r Orsedd ar y Maen Chwŷf ym Mhontypridd am y tro cyntaf yn 1814. Dros yr ugain mlynedd nesaf trefnwyd nifer o ddigwyddiadau tebyg gan Thomas Williams (Gwilym Morgannwg). Bu'n gweithio fel saer maen a daeth yn dafarnwr y New Inn ym Mhontypridd. Cyfansoddodd farddoniaeth a chaenuon ac ef oedd un o'r wyth bardd a dderbyniwyd i orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1819.
Ar ôl marwolaeth Gwilym Morgannwg parhaodd Gorsedd y maen Chwŷf i gwrdd o dan ofalaeth Taliesin mab Iolo Morgannwg hyd ei farwolaeth yn 1847. Fe'i hailgychwynwyd gan Myfyr Morgannwg (Evan Davies) yn 1850 gydag ef yn Archdderwydd. Ef a gododd y cylch o gerrig a sarff ar y Maen Chwŷf a dau o aelodau newydd yr orsedd hwnnw oedd Evan a James James.
|