
Bu farw'r Dirprwy-Archdderwydd Selwyn Iolen ar 10 Awst 2011. Bu'n Archdderwydd o 2005 i 2007 ac fe gamodd i'r adwy pan oedd Dic yr Hendre yn anhwylus yn 2009.
Talwyd teyrnged i Selwyn Iolen gan yr Archdderwydd, T. James Jones, "Roedd yn ŵr parod ei gymwynas, hwyliog a dawnus. Roedd e'n Archdderwydd diymhongar iawn ac yn gwneud yn siwr ei fod yn cadw'r sylw ar yr enillydd drwy'r amser yn seremoniau'r Eisteddfod. Mae'n cydymdeimlad ni'n fawr â Meira, ei briod, a'i fab Euron."

Hoffem dalu teyrnged a diolch i Siân Aman am ei hymroddiad a’i gwaith di-flino i’r Orsedd drwy’r blynyddoedd—yn wir dros chwarter canrif o wasanaeth! Dymunwn yn dda iddi hi (a Huw ei gŵr), wrth iddi ymddeol o’r swydd bwysig hon ar ddiwedd y brifwyl eleni.
Yn dilyn ymddiswyddiad Allan Cennech fel Trefnydd Cerddoriaeth Gorsedd y Beirdd, penodwyd Cefin Roberts yn olynydd iddo am y tymor nesaf o dair blynedd.
Diolchwn i Allan Cennech am ei holl waith ar ran Gorsedd y Beirdd dros y blynyddoedd dwytha a dymunwn bob llwyddiant i Cefin wrth iddo ymgymryd â’r swydd.

Cafwyd croeso arbennig gan bobl Bro Morgannwg ar Ddydd Sadwrn 25 Mehefin. Daeth cannoedd o bobl i wylio’r orymdaith ac i fwynhau seremoni’r Cyhoeddi - ac erbyn i’r prynhawn gyrraedd, roedd yr haul yn gwenu.
Ddydd Sadwrn, 17 Medi, 2011 daeth yn agos at hanner cant o aelodau’r Orsedd o bob rhan o Gymru at ei gilydd i Gastell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, ar gyfer ein hail achlysur cymdeithasol blynyddol a drefnwyd gan Yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor. Yn awyrgylch unigryw a thrawiadol y castell Fictorianaidd a brynwyd gan Syr Clough Williams-Ellis yn 1931 (taid y perchennog presennol, y Prif Lenor Robin Llywelyn), cafwyd cyfle i glywed hanes yr adeilad a’r ystad gan Robin ei hun, cyn mwynhau orig ddymunol yn cymdeithasu uwch pryd hyfryd o fwyd. Croeswyd pawb yn gynnes gan yr Archdderwydd Jim Parc Nest, ac wedi gorffen gwledda cafwyd cyfle i grwydro o gwmpas gerddi’r Castell ynghyd â mynd i lawr i bentref hynod Portmeirion i fwynhau’r golygfeydd a’r bensaerthiaeth hynod.
Diolch i’r Prif Lenor Robin Llywelyn am ein croesawu i’w ‘gartref’ ac i Dyfrig ab Ifor am ei drefniadau manwl a gofalus (gan gynnwys sicrhau digon o ysbeidiau heulog ynghanol diwrnod o gawodydd trwm !). Os oes gan unrhyw aelod o’r Orsedd syniadau am leoliad addas ar gyfer cymdeithasu y flwyddyn nesaf, byddai Bwrdd yr Orsedd yn falch iawn o glywed gennych.
Gwyn o Arfon.

Cyhoeddwyd ar y 1af o Chwefror 2011, mai Ela Jones - Ela Cerrigellgwm, fydd yn olynu Siân Aman fel Meistres y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd am y cyfnod hyd at 2013.
O Ysbyty Ifan ger Betws y Coed y daw Ela, a urddwyd i’r Orsedd er anrhydedd yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd y llynedd, am ei gwasanaeth fel gwiniadwraig, cynllunydd a gwneuthurwraig. Fe fydd yn cysgodi Siân Aman yn y gwaith ar y cychwyn, wrth iddi ymgyfarwyddo â dyletswyddau Meistres y Gwisgoedd. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y gwaith.
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o’i bath yn Y Senedd yng Nghaerdydd ym mis Medi 2010. Daeth nifer fawr o Orseddogion i’r cyfarfod ac fe drefnwyd taith o amgylch yr adeilad, gyda lluniaeth i ddilyn. Ynglŷn â’r dyfodol, awgrymodd y Gorseddogion oedd yn bresennol, y byddai’n ddymunol cynnal yr ail gyfarfod ym Mhortmeirion. Gall Castell Deudraeth dderbyn hyd at 100 o bobl a chytunodd y Bwrdd â’r awgrym. Drwy garedigrwydd Robin Llywelyn cynhelir yr ail gyfarfod felly yng Nghastell Deudraeth 17 Medi 2011.
Llongyfarchwyd yr Arwyfardd ar drefniadau’r ymweliad â’r Senedd.
Estynnwn ein diolchiadau diffuant i Calvin a Marilyn Rees o Sain Ffagan am eu gwasanaeth arbennig i’r Orsedd, wrth i’r ddau ymddeol o’u dyletswyddau. Y tu ôl i’r llenni, bu’r ddau yn gofalu am, a chludo’r creiriau o Eisteddfod i Eisteddfod am flynyddoedd a diolchwn iddynt am eu gwasanaeth. Mater o lawennydd yw cael cyhoeddi y bydd eu merch Cathryn yn ymgymryd â’r dyletswyddau hyn o eleni ymlaen.
Adroddiad Swyddog y Celtiaid 2011, Mererid

Yn gyntaf, diolch i bawb o Fwrdd yr Orsedd a wirfoddolodd i’n cynrychioli ni yn y Gwyliau Celtaidd eleni eto. Yn ôl yr adroddiadau, derbyniodd pawb groeso cynnes gan ein brodyr a’n chwiorydd dramor, ac mae’r teimlad o agosatrwydd yn parhau. Heb os, mae gennym ni fel Cymry rôl bwysig i’w chwarae yn annog a chodi calon y rhai sy’n ymdrechu’n ddiflino, mewn amgylchiadau hyd yn oed llai ffafriol na’r rhai sydd gyda ni yng Nghymru, i gadw’r diwylliant a’r ieithoedd lleiafrifol yn fyw. Da gallu nodi bod pethau’n bywiocau yn Ynys Manaw, a thipyn mwy o drefn a llewyrch ar y gweithgaredd yno’r dyddiau hyn ymddengys. Yn y cylch hwn o ymweliadau, dyma ddau dabl yn dangos y cyfnewid:
Cynrychiolwyr o Dramor |
Enwau 1 |
Enwau 2 |
Cernyw |
Mick Paynter |
MaureenFuller |
Iwerddon |
Bláthnaid Ó Brádaigh |
Máire Ní Laoire |
Llydaw |
Youenn Amice |
Youenn Arbarz |
Patagonia |
Ivonne Maes Llaned |
|
Ynys Manaw |
Paul Salmon |
Caroline Salmon |
Yr Alban |
John Morrison |
James Graham |
Cynrychiolwyr i Dramor |
Enwau |
Dyddiad/Lleoliad yr Ŵyl |
Cernyw |
Alun Guy |
Helston, Medi 3 |
Iwerddon |
Yr Archdderwydd |
Killarney, Tachwedd 3-6 |
Llydaw |
Christine James |
Arzano, Gorffennaf |
Patagonia |
Yr Archdderwydd |
Hydref 2011 |
Ynys Manaw |
Mererid |
Gorffennaf 21-23 |
Yr Alban |
Eigra |
Ynys Lewis, Hydref 14-22 |