Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792 gan Edward Williams, Iolo Morganwg. Ef a ddyfeisiodd y defodau sydd â seiliau yng ngweithgareddau’r Derwyddon Celtaidd. Cynhaliwyd seremoni gyntaf yr Orsedd ar 21 Mehefin 1792 ym Mhrimrose Hill, Llundain. Gosodwyd cylch o gerrig mân ar y maes a tu fewn i’r cylch bu rhai o gyfeillion Iolo yn ei gynorthwyo gyda’r defodau. Ar Fryn Owain ym Mro Morgannwg y cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru yn 1795. Cynhaliodd Iolo seremoni’r Orsedd mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn Ngwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin yn 1819 ac ers sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ym 1860 mae Gorsedd y Beirdd wedi bod yn gysylltiedig â’r Eisteddfod. Rheolir y gweithgareddau gan Fwrdd yr Orsedd ac etholir yr Archdderwydd am gyfnod o dair blynedd. Sefydlwyd Gorsedd y Beirdd yn Llydaw ym
1900, a Gorsedd yn Nghernyw yn 1928. Mae’r ddwy yn cydweithio
â Gorsedd Cymru. Yn 2001 ail-sefydlwyd Gorsedd y Beirdd
yn y Wladfa, Patagonia, ac mae cysylltiadau â’r Oireachtas
yn yr Iwerddon. |
|
|||