| Am
3 o'r gloch ar yr l6eg o Fedi 1995 cynhaliwyd gorsedd arbennig
gan Feirdd Ynys Prydain ar Fryn Owain (Stalling Down) ger
y Bontfaen i ddathlu cynnal yr orsedd gyntaf a gynhaliwyd
gan Iolo Morganwg ar dir Cymru.
Fe'i cynhaliwyd yn y flwyddyn
1795 wedi iddo ddychwelyd o Lundain lle y bu yn dilyn
ei yrfa fel saer maen a chyda nifer o aelodau o Gymdeithas
y Gweinidogion yn cyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg, yn sefydlu
Beirdd Ynys Prydain ac yn cynnal gorseddau. Wedi iddo
ddychwelyd aeth ati ar unwaith i drefnu gorseddau ym Mro
Morgannwg, y gyntaf ar Fryn Owain, calon yr hen Fro. Yn
ei sgrôl yn cyhoeddi'r orsedd mae'n rhoi enwau nifer o
feirdd lleol, megis Iorweth Glan Dawon, Gwilym Glyn Taf,
a Gwilym Glynogwr, beirdd na, wyddom fawr amdanynt. Ond
mae'n rhoi un enw digon adnabyddus, sef Tomos Glyn Cothi,
brodor o sir Gaerfyrddin a arferai ddod i'r Fro i werthu
brethyn gwlân ac a fu wedyn yn weinidog gyda'r Undodiaid.
|
Pwrpas y gorseddau
oedd urddo'r rhai a ymddiddorai yn yr hen gelfyddyd o farddoni
yn aelodau o'r gymdeithas farddol newydd, sef Beirdd Ynys
Prydain. Yn ei orseddau arferai Iolo draethu'n hir ar y
grefft o farddoni ac fe adroddai'r beirdd eu cerddi. Nid
oedd na chanu emynau nag adrodd gweddi'r orsedd yn y dyddiau
cynnar hyn. Roedd defod y cledd yn bwysig gan fod Iolo yn
pwysleisio mai brawdoliaeth a garai, heddwch oedd ei gymdeithas
farddol newydd. Nid oedd unrhyw urddwisgoedd fel sydd heddiw,
a chylch digon tila o fân gerrig oedd y man cyfarfod. Ni
fyddai Iolo yn rhoi gormod o gyhoeddusrwydd i'w orseddau
am fod yr awdurdodau yn amau pob rhyw gymdeithas ddirgel
a fyddai'n cyfarfod yn ystod y chwyldro yn Ffrainc. Ond
cyfarfod agored i'r cyhoedd oedd yr orsedd ym Medi i ddathlu'r
daucanmlwyddiant. |