| NOD
I FEIBION A MERCHED CYMRU
Bwriadwyd Arholiadau'r Orsedd fel symbyliad
i waith ac fel safon i fesur cynnydd wrthi. A pha deilyngach
uchelgais i ieuenctid Cymru nag ymgymhwyso yn yr efrydiau
hyn modd y gallont ddyfod i mewn i Lys yr Eisteddfod Genedlaethol
trwy borth anrhydeddus Arholiadau'r Orsedd?
Ceir meysydd llafur mewn barddoniaeth
neu lenyddiaeth neu gerddoriaeth, a meysydd arbennig eraill
i delynorion a datgeiniaid gyda'r tannau. Rhaid pasio dau
arholiad yn eich pwnc dewisedig cyn y byddwch ar dir i'ch
urddo yng Nghylch yr Orsedd gan yr Archdderwydd, ond gellwch
gymryd y ddau bapur yr un diwrnod os dewiswch. Yna ymhen
blwyddyn arall, cewch sefyll yr arholiad terfynol - Bardd,
Cerddor, Llenor.
Cynhelir yr arholiadau ar y dydd Sadwrn
olaf o Ebrill bob blwyddyn mewn canolfannau hwylus yn Ne
a Gogledd Cymru, a rhaid i bob ymgeisydd anfon rhybudd o'i
fwriad i sefyll cyn 1 Mawrth i Drefnydd yr Arholiadau. Ganddo
ef cewch am 50c (a chludiad) lyfryn hwylus yn rhoddi i chwi
gyfarwyddiadau Ilawn am y gwahanol feysydd Ilafur a'r amodau,
ynghyd ag enwau arholwyr, a'r rhestr werslyfrau.
Anfonwch ar unwaith, er mwyn dechrau
mewn da bryd, i'ch urddo yn Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn
nesaf.
Y mae Tystysgrif yr Arholiadau yn un
o'r rhai harddaf a luniwyd erioed. Gwnaed hi'n arbennig
ar gyfer yr Orsedd gan artist Cymreig, R. L. Gapper, ac
y mae'n arddangosiad y gellwch ymfalchïo ynddo ar hyd eich
oes. Ond mwy na hynny fydd yr etifeddiaeth deg a enillwch
trwy'r cwrs o hunanddiwylliant a'r fraint o'ch urddo ar
gyfrif hynny yn aelod o'r Orsedd.
|
ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Gaerdydd y flwyddyn nesaf, beth am fynd ati dros fisoedd y gaeaf i baratoi ar gyfer sefyll arholiadau’r Orsedd, a thrwy hynny ddod yn aelod o’r Orsedd a chael cymryd rhan yn ei seremonïau a’i gorymdeithiau lliwgar ?
Cynhelir yr arholiadau ar y Sadwrn olaf yn Ebrill a gallwch ddewis o blith nifer o feysydd i arbenigo ynddynt: Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Iaith, a Rhyddiaith, ynghyd â meysydd arbennig i Delynorion, Datgeiniaid Cerdd Dant, ac Utganwyr. Rhaid pasio dau arholiad yn eich maes dewisedig cyn cael eich urddo i’r Wisg Werdd, ond gallwch sefyll y ddau bapur yr un diwrnod, os dewiswch. Yna, ymhen blwyddyn wedyn, cewch sefyll yr arholiad terfynol i’ch urddo i’r Wisg Las.
Os hoffech fwy o fanylion am yr arholiadau, cysylltwch â mi cyn gynted â phosib yn: Llys Cerdd, 80 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL (e-bost: wgwyn.lewis@btinternet.com)
Beth am roi cynnig arni, felly, er mwyn i chi gael bod yn rhan o seremonïau Gorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf ?
Yr eiddoch yn gywir
Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon)
Trefnydd Arholiadau Gorsedd y Beirdd
|